Alexandre Dumas
Nofelydd Ffrengig oedd Alexandre Dumas (24 Gorffennaf 1802 - 5 Rhagfyr 1870). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur ''Les Trois Mousquetaires'' a ''Le Comte de Monte-Cristo''.Ganed ef yn Villers-Cotterêts yn département Aisne, yn fab i'r cadfridog Thomas Alexandre Dumas. Yn 1822, symudodd i ddinas Paris, lle bu'n gweithio yn y Palais-Royal yn swyddfa'r ''duc d'Orléans'' (Louis Philippe). Yno, dechreuodd ysgrifennu i gylchgronau a daeth yn adnabyddus fel dramodydd. Yn ddiweddarach, troes at ysgrifennu nofelau hanesyddol.
Daeth ei fab, Alexandre Dumas (1824-1895), yn adnabyddus fel nofelydd hefyd, yn arbennig fel awdur ''La Dame aux camélias''.
Claddwyd ef Villers-Cotterêts, ond yn 2002 codwyd ei gorff i'w ail-gladdu yn y Panthéon ym Mharis. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20
-
21
-
22
-
23
-
24
-
25
-
26
-
27
-
28
-
29
-
30
-
31
-
32
-
33
-
34
-
35
-
36
-
37
-
38
-
39
-
40