Jacques Maritain
Athronydd Catholig o Ffrancwr oedd Jacques Maritain (18 Tachwedd 1882 – 28 Ebrill 1973) sy'n nodedig am ei ddehongliadau o syniadaeth Tomos o Acwin ac am athroniaeth Domistaidd ei hunan.Ganwyd ym Mharis, a chafodd ei fagu'n Brotestant. Astudiodd yn y Sorbonne ac yno dylanwadwyd arno gan y syniad nad oedd gwyddorau natur yn gallu ateb yr holl gwestiynau am oes a thranc dyn. Gyda'i gyd-fyfyriwr Raissa Oumansoff, Iddewes o Rwsia, mynychodd darlithoedd yr athronydd Henri Bergson a oedd yn arddel sythwelediaeth yn hytrach na gwyddonyddiaeth. Priododd Maritain â Oumansoff yn 1904, a dwyflwydd yn ddiweddarach troesant yn Gatholigion. Astudiodd Maritain fioleg ym Mhrifysgol Heidelberg o 1906 i 1908 cyn iddo ddychwelyd i Baris i astudio Tomistiaeth.
Dechreuodd addysgu yn yr Institut Catholique yn 1913, a daliodd swydd athro athroniaeth fodern o 1914 i 1939. Bu'n ddarlithydd blynyddol i'r Pontifical Institute of Mediaeval Studies ym Mhrifysgol Toronto o 1932 ymlaen, a hefyd yn athro gwadd ym mhrifysgolion Princeton (1941–42) a Columbia (1941–44). Gwasanaethodd yn llysgennad Ffrainc i Ddinas y Fatican o 1945 i 1948. Dychwelodd i Princeton i gymryd swydd athro athroniaeth o 1948 i 1960. Sefydlwyd Canolfan Jacques Maritain ym Mhrifysgol Notre Dame, Indiana, yn 1958. Bu farw yn Toulouse yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20
-
21
-
22
-
23
-
24
-
25
-
26
-
27
-
28
-
29
-
30
-
31
-
32
-
33
-
34
-
35
-
36
-
37
-
38
-
39
-
40