Gabriel García Márquez
Awdur, sgriptiwr a newyddiadurwr yn enedigol o Colombia oedd Gabriel José de la Concordia García Márquez, yn ysgrifennu fel Gabriel García Márquez (ganed 6 Mawrth 1927 – 17 Ebrill 2014). Ystyrir ef yn un o brif awduron yr 20g yn yr iaith Sbaeneg.Ganed ef yn Aracataca, yn rhanbarth Magdalena, yn fab i Gabriel Eligio García a Luisa Santiaga Márquez. Priododd Mercedes Barcha ym 1958. Derbyniodd Wobr Ryngwladol Neustadt am Lenyddiaeth yn 1972 a rhoddwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo yn 1982.
Addysgodd ei hun ac o ganlyniad peidiodd ag astudio'r gyfraith a dechreuodd weithio fel newyddiadurwr. Bu'n barod iawn i feirniadu gwleidyddion Colymbaidd a thramor. Yn 1958 priododd Mercedes Barcha; cawsant ddau o feibion, Rodrigo and Gonzalo. Mae García Márquez yn adnabyddus am boblogeiddio'r arddull 'Realaeth Hudol' (magic realism), sydd yn defnyddio elfennau hudol yn ochr ac ochr â sefyllfaoedd pob dydd. Lleolir rhai o'i weithiau ym mhentref dychmygol Macondo (wedi'i ysbrydol gan ei dref enedigol Aracataca). Mae llawer o'i lyfrau hefyd yn archwilio'r thema o unigrwydd.
Disgrifiodd Pablo Neruda ei lyfr ''Cien años de soledad (Can Mlyedd o Unigrwydd)'' fel "y mwyaf arwyddocal yn yr iaith Sbaeneg ers ''Don Quijote''" (gan Miguel de Cervantes, 1547–1616).
Pan fu farw yn 2014 dywedodd lywydd Colombia ei fod y 'Colombianwr mwyaf mewn hanes'. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20
-
21
-
22
-
23
-
24
-
25
-
26
-
27
-
28
-
29
-
30
-
31
-
32
-
33
-
34
-
35
-
36
-
37
-
38
-
39
-
40