Aristoteles

Athronydd Groeg yr Henfyd oedd Aristoteles (hefyd Aristotlys neu Aristotlus, Groeg: Ἀριστοτέλης). Fe'i ganwyd yn 384 CC yn Stagira, Chalcidici; ac fe fu farw ar 7 Mawrth 322 CC yn Chalcis, Ewboia yng Ngwlad Groeg.

Roedd yn fyfyriwr i Platon ac yn athro i Alecsander Fawr. Ysgrifennodd ynglŷn ag amryw feysydd, gan gynnwys ffiseg, barddoniaeth, bioleg, rhesymeg, rhethreg, gwleidyddiaeth, llywodraeth, a moeseg. Ynghyd â Socrates a Platon, roedd yn un o athronwyr mwyaf dylanwadol Groeg yr Henfyd. Trawsnewidiasant athroniaeth Gynsocrataidd yn sylfeini'r Athroniaeth Orllewinol gyfarwydd. Dywed rhai y bu i Platon ac Aristoteles ffurfio dwy ysgol bwysicaf athroniaeth hynafol; tra bod eraill yn gweld dysgeidiaeth Aristoteles yn ddatblygiad a diriaethiad o weledigaeth Platon. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 121 - 127 canlyniadau o 127 ar gyfer chwilio 'Aristoteles.', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 121
  2. 122
  3. 123
  4. 124
  5. 125
  6. 126
  7. 127